Pontio cyfeillgarwch a chysylltiadau oedd themâu canolog dathliad wythnos o hyd yn ddiweddar, i nodi hanner canmlwyddiant rhwng dinasoedd Bangor a Soest yn yr Almaen.
Yn ganolbwynt i’r achlysur oedd dau waith celf a grëwyd gan garcharor rhyfel o'r Almaen, a dderbyniodd ofal yn hen ysbyty C&A Bangor yn syth ar ôl yr Ail Ryfel Byd. Cyflwynodd Paul-Franze Bonnekamp ddau o'i weithiau i'r ddinas, i fynegi ei ddiolchgarwch am y caredigrwydd a'r gofal a gafodd yn ystod ei amser yno. Y gyntaf yw Croes Orymdaith Soest, sydd i’w gweld yng Nghadeirlan Bangor ers 1980 a ffenestr liw, o'r enw 'Y Samariad Hanesyddol', a roddwyd wrth sefydlu Ysbyty Gwynedd yn 1985. Gefeilliwyd dinasoedd Bangor a Soest gyntaf yn 1973, a chynhaliwyd y cyfnewidiad ysgol cyntaf y flwyddyn ganlynol. Roedd 2023 yn nodi 50 mlynedd o’r bartneriaeth, gyda chyfres o ddigwyddiadau yn cael eu cynnal yn y ddinas i nodi’r achlysur, gan gynnwys arddangosfa gelf, gwasanaeth yn y Gadeirlan a chyngerdd cerddoriaeth glasurol yn Neuadd Powis, Prifysgol Bangor.
Enw’r arddangosfa gelf oedd i’w gweld yn Storiel Bangor oedd ‘Pontydd Dynol’. Roedd yn cynnwys celf gan artistiaid o Fangor a Soest ac roedd yn seiliedig ar y cysyniad o bontydd rhwng pobloedd. Un o uchafbwyntiau’r arddangosfa oedd panel gwydr lliw Y Samariad Hanesyddol, ar fenthyg yn garedig gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.
Dywedodd Cadeirydd Cyfetholedig y Pwyllgor Gefeillio, Les Day, sy’n dal Rhyddfraint Dinas Bangor: “Am wythnos o ddathliadau! O ystyried ein bod yn byw mewn cyfnod mor heriol, rwy’n arbennig o falch o ddweud bod y cyfeillgarwch rhwng Bangor a Soest wedi tyfu a dyfnhau dros yr 50 mlynedd diwethaf. Mae'n hanfodol ein bod yn parhau â'r cysylltiadau a'r cyfnewidiadau hyn, fel rhan allweddol o gynnal y dolenni hynny o dosturi ac empathi.”
Trefnydd Soest oedd Petra Menke Koerner, gweddw Karl-Heinz Koerner, un o benseiri gwreiddiol gefeillio Bangor-Soest. Meddai: 'Rwyf wrth fy modd yn cael bod yma i rannu a phrofi dathliad mor arwyddocaol'
Gwesteion Soest oedd yn talu am eu hymweliad penblwydd â’r ddinas a chawsant eu lletya yng Nghanolfan Rheolaeth Prifysgol Bangor. Cawsant fwynhau teithiau dydd i Ynys Môn, gan gynnwys Mynydd Parys; taith ar y trên bach i gopa’r Wyddfa; a Phortmeirion. Roedd Dirprwy Faer Soest a rhai o’r cynghorwyr yn bresennol hefyd fel gwesteion Cyngor Dinas Bangor.
Cynhaliwyd gwasanaeth trawiadol a theimladwy yn yr Eglwys Gadeiriol fel rhan o’r wythnos ddathlu, a oedd yn cynnwys ail-gysegru a chyfnewid y Siarteri Gefeillio. Yn ganolog i'r gwasanaeth oedd Croes Orymdaith Bonnekamp, a arweiniodd yr orymdaith i'r Gadeirlan. Cymerodd naw o ysgolion cynradd ac uwchradd Bangor ran hefyd, gyda chyfanswm o dros 240 o ddisgyblion ysgol, ynghyd â’u hathrawon.
Cynhaliodd Prifysgol Bangor gyngerdd dathlu yn Neuadd Powis, gyda Cherddorfa Symffoni Prifysgol Bangor, Corws Symffoni Prifysgol Bangor a’u harweinydd, Dr Joe Cooper, Cyfarwyddwr Cerdd Cadeirlan Bangor.
Ychwanegodd Les Day: “Hoffwn ddiolch i bawb a helpodd i wneud yr wythnos hon yn llwyddiant rhyfeddol. Mwynhaodd ein gwesteion o Soest groeso mor gynnes, a gwnaed iddynt deimlo eu bod yn wirioneddol bwysig. Mae angen inni yn awr sicrhau bod ein perthynas efeillio yn cadw i fynd, a chredaf fod y genhedlaeth nesaf yn allweddol i hyn. Edrychaf ymlaen at weld beth ddaw yn yr 50 mlynedd nesaf i’n partneriaeth efeillio rhwng Bangor a Soest.”
I’r rheiny sy’n dymuno darganfod mwy am helpu gyda chyfleoedd gefeillio yn y dyfodol rhwng Bangor a Soest, cysylltwch â: Cyngor Dinas Bangor neu Les Day
Y gwydr panel lliw syfrdanol o waith Paul-Franz Bonnekamp 'Y Samariad Hanesyddol' ar fenthyciad caredig gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Nodiadau i Olygyddion
Gwybodaeth am Paul-Franz Bonnekamp , ei Groes Soest a’r panel gwydr lliw ‘Y Samariad Hanesyddol’:
Ganwyd Paul-Franz Bonnekamp yn Inden, yr Almaen yn 1925. Cymerwyd ef yn garcharor yn 1944 yn filwr 18 oed yn ystod yr ail ryfel byd. Aeth yn ddifrifol wael wrth wneud gwaith difrod rhyfel yn 1946 a chafodd ei drosglwyddo i ysbyty C&A ym Mangor. Yn ddiweddarach bu Bonnekamp yn byw yn Soest- Möhnesee ac roedd wrth ei fodd pan ddaeth Bangor a Soest yn chwaer drefi ym 1973. Creodd Paul-Franz Bonnekamp, a oedd yn arlunydd mewn gwydr lliw, Groes Soest i ddiolch am y caredigrwydd a’r gofal a dderbyniodd yn hen ysbyty C&A, Bangor. Cyflwynwyd y Groes i ddinas Bangor ar ran gefeill ddinas Soest, yr Almaen, ac fe'i chysegrwyd gan y Deon Ifor Rees mewn gwasanaeth arbennig ar 30 Mehefin 1980. Addaswyd Croes Soest yn groes orymdaith gan staff Coleg Technegol Gwynedd, Bangor, ac fe'i defnyddiwyd gyntaf adeg gorseddiad yr Esgob Cledan Mears ar 8 Ionawr 1983. Paul-Franz Bonnekamp a greodd ac a gyflwynodd yn bersonol y panel gwydr lliw o'r enw 'Y Samariad Hanesyddol' yn 1985 ar adeg agor yr ysbyty newydd ar y pryd, Ysbyty Gwynedd, ac i ddiolch unwaith eto am y gofal hunanaberthol a gafodd yn 1946. Mae cofeb weladwy yn un o’r paenau, sy’n dweud: ‘Gyda diolch am fy adferiad ac er cof am hen Ysbyty Bangor ym mis Mawrth 1946 gan gyn Garcharor Rhyfel Almaenig Paul-Franz Bonnekamp.' Ymateb y cyfryngau lleol i Bonnekamp oedd ei ddisgrifio fel un o'r "peintwyr gwydr pwysicaf yn y byd".
Sut daeth Bangor a Soest yn chwaer ddinasoedd
Roedd gan Soest, dinas gadeiriol hynafol yng Ngogledd Rhein-Westffalia yn yr Almaen broffil demograffig tebyg i Fangor. Y cyfreithiwr, Cynghorydd Vivien Lewis, ddechreuodd y trefniant gefeillio gyda Soest, gan arwain dirprwyaeth o Fangor i Soest ym mis Medi 1970. Arwyddwyd y Siarteri Gefeillio yn ffurfiol yng Nghastell Penrhyn ar 28 Medi 1973. Ymrwymodd y ddwy ddinas yn ddifrifol i gadw mewn cysylltiad â’i gilydd ac i ddarparu cyfnewidiadau ymhlith eu dinasyddion er mwyn datblygu gwir deimlad o undod.
Roedd y daith gyfnewid ysgol gyntaf ym 1974, pan aeth llond bws o Ysgol Friars i aros yn yr Hostel Ieuenctid yn Soest. Cyflwynwyd pob un i ddisgybl ysgol o Soest, a buont yn treulio amser gyda nhw, yn ymweld â’u cartrefi a’u teuluoedd ac yn gosod seiliau cyfeillgarwch.
Dolenni i ddigwyddiadau’r hanner canmlwyddiant:
Ffrydiwyd y gwasanaeth yn y Gadeirlan yn fyw, a gellir ei weld ar y ddolen isod
(‘Gwasanaeth Bangor Soest’):
Cadeirlan Deiniol Sant | Saint Deiniol's Cathedral - YouTube
Cliciwch ar y ddolen isod i weld darnau o Gyngherdd Dathlu Hanner Canmlwydidant
instagram.com/reel/CyEwKwoutOY
Arwyddo Siarteri’r Gefeillio yng Nghadeirlen Bango:
Maer Bangor Elin Walker Jones a Dirprwy Faer Soest Christiane Mackensen yn Arwyddo’r Siarteri Ailgysegru dan oruchwyliaeth Is-Ddeon Cadeirlan Bangor y Canon Sion Rhys Evans.